Cyson Seren
Daeth gwyll yr haf fel gorchudd dros glogwyni
ac ar draws corff crwm Aeshnis,
gorweddai’r golau ledled y gogledd-dir
fel siôl laes o lês.
Un llygad unig amranta
Yn union fel yng nghalon ddu gaea’.
O’i gylch bydd chwyddo, crebachu
ac iro’n wyrdd, a gwywo’n ddim –
codi’r lloer a chilio’r haul,
llanw y trai a’r gwanwyn.
A disgyn cytserau islaw’r tir
a chyfyd eraill i dorri ffurf
newydd mewn nefoedd sy’n newid,
ond mae golau Aeshnis
ar amrantiad, amrantiad, yn amrantu – a llygad seren
yn gwylio, gwylio a gloywi.
Ac medde fo, ynddo’i hun, diolch
bod yma’r Bugail.